Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

CYPE(4)-03-17 – Papur 2

 

Llywodraeth Cymru

 

Cyflwyniad

1.     Diben y papur hwn yn darparu tystiolaeth ysgrifenedig ar weithredu Cymwys am Oes, ei bedwar amcan strategol (sydd wedi’u rhestru isod) ac yn arbennig y meysydd hynny rydych chi wedi’u nodi yn eich llythyr.

 

a.    Gweithlu proffesiynol rhagorol gydag addysgeg gref wedi’i seilio ar ddealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio.

b.    Cwricwlwm sy’n ddeniadol ac yn atyniadol i blant a phobl ifanc ac sy’n datblygu eu gallu i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau yn annibynnol.

c.    Pobl ifanc yn ennill cymwysterau sy’n cael eu parchu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol ac sy’n gweithredu fel pasbort credadwy i’w haddysg a’u cyflogaeth yn y dyfodol.

d.    Arweinwyr addysg ar bob lefel yn cydweithio mewn system hunan-wella, gan helpu a herio ei gilydd er mwyn codi safonau ym mhob ysgol.

 

Amcan Strategol 1: Gweithlu proffesiynol rhagorol gydag addysgeg gref wedi’i seilio ar ddealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio.

 

2.     Mae Cymwys am Oes yn cyflwyno agenda bolisi uchelgeisiol i yrru newid mawr yn neilliannau dysgwyr ar draws Cymru. Bydd angen ymrwymiad llawn gweithlu proffesiynol a hyfedr i gyflawni hyn. Awgrymodd yr Athro John Furlong ffyrdd o gryfhau hyfforddiant ac addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru ac o ddenu’r ymgeiswyr gorau i ddod yn athrawon. Mae hyn yn dyngedfennol i’n nod o godi statws y proffesiwn. Mae cyswllt annatod rhwng llawer o’r argymhellion yn ymwneud â llywodraethu hyfforddiant ac addysg gychwynnol athrawon, adolygu’r safonau proffesiynol, diwygio’r broses achredu, cyflwyno corff achredu newydd a rôl Estyn yn y dyfodol ym maes hyfforddiant ac addysg gychwynnol athrawon yn sgil hynny. Mae hyn oll yn cael ei ddatblygu o fewn yr amserlen y cytunwyd arni ochr yn ochr â’r Fargen Newydd.

 

3.     Mae argymhellion eraill yn rhoi’r cyfle i Lywodraeth Cymru i edrych ar y darlun ehangach, i ystyried rôl ysgolion a’r consortia, yn cynnwys ysgolion Arloesi, yn y broses hyfforddi gychwynnol, i edrych ar ffyrdd eraill o ddod i mewn i’r proffesiwn ac i ystyried pa mor effeithiol yw’r trefniadau sydd ar gael i hybu recriwtio.

 

4.     Mae gwaith yn mynd rhagddo yn unol â’r amserlen i weithredu’r argymhellion i adolygu’r Safonau Athro Cymwysedig (fel rhan o’r adolygiad ehangach o Safonau Proffesiynol) fel eu bod yn gyson â’r newidiadau arfaethedig i’r cwricwlwm; gwerthuso pa mor effeithiol yw’r cymhellion ariannol; a’r gwaith i adolygu’r meini prawf a’r broses achredu. Bydd yr amserlen i roi’r diwygiadau ar waith a gwneud y gwaith cynllunio a phontio gofynnol yn cwmpasu’r cyfnod hyd at fis Medi 2018.

 

5.     Bydd ein ‘Bargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg’ yn helpu a galluogi ein hymarferwyr presennol i gynllunio, datblygu ac adnewyddu eu hymarfer er mwyn ymateb i gyfleoedd a sialensiau’r dyfodol ac yn arbennig i gyflwyno gofynion Cwricwlwm i Gymru: Cwricwlwm am Oes. Yn gefn i’r gwaith hwn mae rhwydwaith o Ysgolion Arloesi wedi cael ei benodi o dan y Fargen Newydd i weithio ochr yn ochr â’r ysgolion arloesi sy’n gweithio ar y cwricwlwm a’r fframwaith digidol (sy’n cael eu crybwyll o dan amcan strategol 2 isod) i ddatblygu model cefnogi rhwng ysgolion er mwyn cynyddu capasiti’r gweithlu. Mae’r rhwydwaith hwn wedi cyfarfod ddwywaith yn barod i gynllunio’r amserlen waith hyd at fis Medi 2016.

 

6.     Yn gefn i’r Fargen Newydd bydd Model Dysgu Proffesiynol a Phasbort Dysgu Proffesiynol (a fydd yn galluogi ymarferwyr i bwyso a mesur eu datblygiad ar hyd eu gyrfa a chymryd cyfrifoldeb amdano). Mae’r Fargen Newydd yn cael ei mireinio i wella ansawdd ymarfer proffesiynol. Rydym yn disgwyl i athrawon, arweinwyr a staff cefnogi gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu proffesiynol eu hunain a rhannu gwybodaeth ac ymarfer da. Mae’r consortia rhanbarthol, drwy’r Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio’n Rhanbarthol, yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu rhaglen genedlaethol o gyfleoedd datblygu proffesiynol.

 

7.     Byddwn yn ceisio barn y rhai sydd yn y gyfundrefn addysg yng Nghymru pa un a ddylem ddatblygu a chynyddu rôl Cyngor y Gweithlu Addysg i’w droi’n gorff proffesiynol sy’n debycach i’r hyn a geir mewn proffesiynau eraill. Fodd bynnag, byddwn yn sicrhau bod y Cyngor yn cael amser priodol i gael ei draed tano, gan ganolbwyntio ar y swyddogaethau cofrestru craidd, yn cynnwys y categorïau newydd o ymarferwyr, cyn gwneud unrhyw newidiadau. Mae pob athro mewn ysgolion ac ym maes addysg bellach yn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg erbyn hyn. Bydd yr holl staff cefnogi dysgu yn cofrestru o fis Ebrill 2016.

 

Amcan Strategol 2: Cwricwlwm sy’n ddeniadol ac yn atyniadol i blant a phobl ifanc ac sy’n datblygu eu gallu i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau yn annibynnol.

 

8.     Yn dilyn y dystiolaeth ysgrifenedig a ddarperais i’r Pwyllgor ym mis Medi 2015, cafodd cynllun gweithredu yn dwyn y teitl Cwricwlwm i Gymru: Cwricwlwm am Oes ei gyhoeddi ar 22 Hydref 2015. Mae’r cynllun yn nodi sut y caiff y cwricwlwm newydd ei ddatblygu ar y cyd â gweithwyr addysg proffesiynol ar draws Cymru, gyda’r nod o fod ar gael i sefydliadau ac ysgolion erbyn mis Medi 2018 ac y caiff ei ddefnyddio i gefnogi dysgu ac addysgu erbyn mis Medi 2021.

 

9.     Rydym wedi penodi 106 o Ysgolion Arloesi (rhai ohonynt yn gweithio mewn partneriaethau) i weithio gydag arbenigwyr o Gymru ac arbenigwyr rhyngwladol i ddylunio a datblygu’r cwricwlwm cenedlaethol newydd i Gymru. Yn ystod cam cyntaf y datblygu, bydd y ffocws ar ddylunio strwythur y cwricwlwm newydd, cyn datblygu cynnwys y Meysydd Dysgu a Phrofiad.

 

10.  Bydd yr ymarferwyr arweiniol o’r Ysgolion Arloesi sy’n canolbwyntio ar ddylunio a datblygu’r cwricwlwm yn cysylltu’n rheolaidd ag ysgolion yn eu partneriaethau, clystyrau a rhwydweithiau ehangach i sicrhau bod y diwygiadau a gyflwynir yn cael eu harwain gan y proffesiwn yng Nghymru. Drwy weithio gydag arbenigwyr a chael plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn ystod y broses ddatblygu, bydd yr Arloeswyr yn sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn adeiladu ar yr argymhellion yn Dyfodol Llwyddiannus a’i fod yn ddeniadol ac atyniadol i ddysgwyr yng Nghymru.

 

11.  Argymhellodd Dyfodol Llwyddiannus y dylid datblygu Fframwaith Cymhwysedd Digidol ac mae’r agwedd hon wedi cael ei hyrwyddo’n gyflym fel y bydd y fframwaith ar gael erbyn mis Medi 2016. Penodwyd Ysgolion Arloesi Digidol ym mis Gorffennaf 2015 ac mae’r gwaith datblygu, dan arweiniad yr Arloeswyr Digidol ond yn gweithio gydag arbenigwyr a rhanddeiliaid eraill, yn mynd rhagddo’n dda. Gyda’i gilydd bydd Ysgolion Arloesi, ynghyd â phartneriaeth Cymru gyfan ac arbenigwyr a rhanddeiliaid eraill, yn adeiladu fframwaith ar gyfer cwricwlwm sy’n fodd i’n plant a’n pobl ifanc fod yn:

o   Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu hoes;

o   Cyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;

o   Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd; ac yn

o   Unigolion iach, hyderus, yn barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

 

12.  Yn ychwanegol, dywed argymhelliad wyth yn Dyfodol Llwyddiannus y dylai’r disgwyliadau o ran y tri Chyfrifoldeb Trawsgwricwlaidd (llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol) a sgiliau ehangach gael eu gwreiddio ym Meysydd Dysgu a Phrofiad y cwricwlwm newydd. Yng Nghymru mae’r sgiliau ehangach yn cynnwys:

 

o   meddwl yn feirniadol a datrys problemau – defnyddio prosesau beirniadol a rhesymegol i ddadansoddi a deall sefyllfaoedd ac i ddatblygu ymatebion a datrysiadau

o   cynllunio a threfnu – rhoi datrysiadau ar waith a gwireddu syniadau, a monitro canlyniadau a’u pwyso a’u mesur

o   creadigrwydd ac arloesi – cynhyrchu syniadau, bod yn agored a bod yn ddigon dewr i archwilio syniadau a mynegi barn

o   effeithlonrwydd personol – pwyso a mesur a deall eich hunan a phobl eraill, gan ymddwyn mewn ffyrdd effeithiol a phriodol; bod yn ddysgwr effeithiol.

 

13.  Drwy waith yr Ysgolion Arloesi a phartneriaid allweddol ac arbenigwyr caiff y sgiliau ehangach hyn, yn ogystal â’r Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd, eu gwreiddio ledled y cwricwlwm yn y ffordd fwyaf priodol. Bydd hyn yn sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn meithrin yn ein dysgwyr y gallu i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau.

 

14.  Bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys trefniadau i ddisgrifio a dynodi cynnydd dysgwyr mewn perthynas â chontinwwm dysgu ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad, o’r adeg y bydd plentyn yn cychwyn ar ei addysg tan ddiwedd ei addysg statudol. Bydd hyn yn cynnwys Camau Cynnydd a fydd yn darparu pwyntiau cyfeirio, gan roi ‘map ffyrdd’ ar gyfer y cynnydd mewn dysgu gan bob plentyn a pherson ifanc unigol. Mae Dyfodol Llwyddiannus yn argymell y dylai fod gan ysgolion ddyletswydd i ddarparu cwricwlwm sy’n galluogi’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc i gyrraedd neu fynd heibio i bob Cam Cynnydd o fewn y cyfnod bras o dair blynedd.

 

15.  Caiff Fframwaith Asesu a Gwerthuso trosfwaol ei ddatblygu. Bydd yn hyrwyddo canolbwyntio ar ddibenion y cwricwlwm fel y nodau dysgu y cytunwyd arnynt a bydd yn sicrhau bod trefniadau asesu’r cwricwlwm newydd yn rhoi blaenoriaeth i’w rôl ffurfiannol mewn addysgu a dysgu, yn unol â’r argymhellion yn Dyfodol Llwyddiannus.

 

Amcan Strategol 3: Pobl ifanc yn ennill cymwysterau sy’n cael eu parchu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol ac sy’n gweithredu fel pasbort credadwy i’w haddysg a’u cyflogaeth yn y dyfodol.

 

16.  Rydym wedi gweithredu’r 42 argymhelliad a wnaed yn yr Adolygiad Annibynnol o Gymwysterau ar gyfer Pobl Ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru.

 

17.  Cyflwynwyd TGAU newydd mewn Saesneg a Chymraeg (iaith a llenyddiaeth), mathemateg a mathemateg-rhifedd yn llwyddiannus ym mis Medi 2015, ynghyd â Bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd. Yr un pryd, achredasom amrywiaeth eang o gymwysterau CBAC lefel TAG Safon UG/Safon Uwch, yn cynnwys y cymwysterau ym maes bioleg, cemeg, ffiseg, cyfrifiadureg, Saesneg a Chymraeg.

 

18.  I gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r TGAU newydd cafwyd rhaglen na welwyd ei thebyg o’r blaen o ganllawiau uniongyrchol ac adnoddau dwyieithog ar gyfer ysgolion. Datblygwyd y rhain gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â CBAC, consortia rhanbarthol, Colegau Cymru, ac eraill. Mae’r rhaglen, a gyflwynwyd yn haf 2014, yn dal i gyflawni yn unol â’r bwriad wrth iddi symud i gefnogi’r TGAU newydd sy’n cael eu cyflwyno i’w dysgu gyntaf ym mis Medi 2016, yn cynnwys y gyfres newydd o TGAU gwyddoniaeth. Mae’r gefnogaeth yn cynnwys amrywiaeth eang o Ddeunyddiau Asesu Enghreifftiol, Deunyddiau Asesu Addysgu, cynlluniau gwaith ac offer arall i gynllunio’r cwricwlwm, ynghyd â chyngor uniongyrchol drwy sesiynau datblygu proffesiynol parhaus CBAC ac ymgynghorwyr pwnc y consortia addysg.

 

Amcan Strategol 4: Arweinwyr addysg ar bob lefel yn cydweithio mewn system hunan-wella, gan helpu a herio ei gilydd er mwyn codi safonau ym mhob ysgol.

 

19.  Mae gan y consortia addysg rhanbarthol rôl dyngedfennol i sicrhau bod ysgolion yn gwella; daeth y Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio’n Rhanbarthol i rym ym mis Ebrill 2014 ac fe’i hadnewyddwyd i adlewyrchu datblygiadau a darparu eglurder pellach ym mis Tachwedd 2015. Diben craidd consortia fel yr amlinellwyd yn y Model Cenedlaethol yw gwella deilliannau dysgu ein holl bobl ifanc; sicrhau bod yr addysgu a’r dysgu o safon uchel; a chefnogi a grymuso arweinwyr ysgolion i arwain eu hysgolion yn well. Yn sylfaen i hyn mae system hunan-wella ysgolion, lle caiff gwella mewn ysgolion ei gefnogi a’i alluogi drwy i ysgolion weithio gyda’i gilydd. Rôl y consortia yw hwyluso a hyrwyddo’r cydweithio hwn rhwng ysgolion ac mae’r categoreiddio cenedlaethol ar ysgolion yn darparu ffocws cryf a symbyliad i gefnogi hyn.

 

20.  Rydym wedi cyflwyno prosiect Her Ysgolion Cymru fel rhaglen gefnogi llwybr carlam ar gyfer yr ysgolion hynny yng Nghymru sy’n wynebu’r her fwyaf, wedi’i seilio ar egwyddorion y Model Cenedlaethol ar gyfer gweithio’n rhanbarthol. Gwelwyd gwelliannau mewn ychydig dros ddwy ran o dair o’r ysgolion Llwybrau Llwyddiant yng nghanlyniadau’r flwyddyn hon – rhai ohonynt mewn ffigurau dwbl, a sawl ysgol yn cael ei setiau canlyniadau gorau erioed. Mae’r gwerthusiad i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd ail flwyddyn y rhaglen. Rydw i’n bersonol wedi ymweld â’r holl ysgolion ym mhrosiect Her Ysgolion Cymru ac mae cyfres o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal fel rhan o’r prosiect i ddarparu cefnogaeth a rhannu arferion da.

 

21.  Y consortia rhanbarthol sy’n rhoi’r system genedlaethol i gategoreiddio ysgolion ar waith; caiff ei chymedroli a’i gwirio ar lefel genedlaethol i sicrhau cysondeb. Lluniwyd y drefn hon ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol ac fe’i datblygwyd ymhellach yn ystod ei hail flwyddyn weithredol.

 

22.  Caiff gwaith y Consortia ei adolygu’n gyson drwy gylch integredig o sesiynau adolygu a herio. Mae i’r sesiynau hyn nodau ac amcanion clir a chânt eu cynnal bob tymor. Bydd y broses hon yn cael ei hadolygu yn y misoedd i ddod.

 

23.  Mae’r consortia wedi gwella’r gefnogaeth a’r her y maen nhw’n eu darparu i arweinwyr ysgolion. Mae’r trefniadau sicrhau ansawdd i gynghorwyr herio’r consortia wedi cael eu cryfhau, darparwyd hyfforddiant i’r holl gynghorwyr herio, ac mae’r consortia yn gyffredinol yn adnabod eu hysgolion yn dda, gydag ysgolion yn dweud bod cynghorwyr herio’n craffu’n fanwl a theg ar eu perfformiad. Yn sylfaen i hyn mae’r safonau cenedlaethol i gynghorwyr herio a luniwyd ar y cyd.

 

24.  Rydym wedi gweithio gyda’r consortia i helpu i ddatblygu athrawon dosbarth ac arweinwyr canol rhagorol. Bellach rydym yn treialu’r rhaglen mewn dau Gonsortiwm yn barod ar gyfer ei chyflwyno’n genedlaethol o fis Medi 2016.

 

25.  Rydym wedi gweithio gyda’r Bwrdd Datblygu Arweinyddiaeth Cenedlaethol (BDAC) a’r consortia i barhau i ddenu pobl i’r Llwybr Datblygu Arweinyddiaeth ac i annog ysgolion i gydweithio. Mae gwaith y BDAC ar gael ar Dysgu Cymru ac mae rhaglenni newydd ar y gweill gyda’r Consortia ar gyfer arweinwyr ar bob lefel.

 

26.  Rydym wedi rhyddhau ein harweinwyr i arwain drwy leihau biwrocratiaeth ddianghenraid, ac wedi darparu mwy o hyblygrwydd iddynt o ran adnoddau a rhoi blaenoriaeth i’r rheng flaen. Cafodd rhyw 11 o grantiau ar gyfer ysgolion a grantiau’n canolbwyntio ar wella ysgolion eu had-drefnu’n un grant newydd symlach drwy sefydlu’r Grant Gwella Addysg ar gyfer Ysgolion ar 1 Ebrill 2015.

 

Gwaith Etifeddol

 

27.  O ran eich cais am ddiweddariadau fel rhan o’ch gwaith etifeddol, mae’r rhain ynghlwm fel Atodiadau A – C.


 

Atodiad A

 

Canlyniadau addysgol plant o aelwydydd incwm isel -

 

Ar 10 Ebrill 2015 darparodd Llywodraeth Cymru ymateb ysgrifenedig i adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sy’n dwyn y teitl Ymchwiliad i Ganlyniadau Addysgol Plant o Aelwydydd Incwm Isel . Roedd yr adroddiad yn cynnwys 12 argymhelliad. Derbyniwyd 5 o’r rhain a derbyniwyd 7 mewn egwyddor.

 

Diweddariad: Mae’r ystadegau cyrhaeddiad addysgol (a gyhoeddwyd ar 3 Rhagfyr 2015) yn dangos bod cyrhaeddiad dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn y Cyfnod Sylfaen yn dal i godi. Yn 2014/15 cyrhaeddodd 75.1% o’r dysgwyr oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim Ddangosydd y Cyfnod Sylfaen, cynnydd o 2.7 pwynt canran ar y flwyddyn flaenorol. Er bod cynnydd dysgwyr eraill (nad oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim) hefyd wedi codi, roedd cyfradd wella’r dysgwyr a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi codi’n gyflymach, sy’n golygu bod y bwlch cyrhaeddiad yn y Cyfnod Sylfaen wedi gostwng o 16.2 pwynt canran yn 2013/14 i 14.9 pwynt canran yn 2014/15.

 

Ym mis Gorffennaf 2013 gosodwyd targed y Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi i leihau’r bwlch cyrhaeddiad ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen rhwng dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a dysgwyr nad ydynt yn gymwys. Y targed oedd gostyngiad o 10 y cant erbyn 2017, sy’n cyfateb i wahaniaeth absoliwt o 16.5 pwynt canran. Rydym wedi cyrraedd y targed ac yn wir wedi rhagori arno dair blynedd yn gynnar. Mae cyrhaeddiad wedi gwella i’r ddau grŵp o ddysgwyr, ond rydym am i dargedau newydd ganolbwyntio ar wella canlyniadau disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gyflymach. Felly, rydym wedi datblygu targedau mwy heriol i barhau i yrru’r gwelliant hwn:

 

 

 

Bydd ychwanegu targed cyrhaeddiad cenedlaethol i ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn sicrhau bod unrhyw leihad yn y “bwlch” cyrhaeddiad yn adlewyrchiad gwirioneddol o welliant drwyddo draw. Drwy osod targed mwy heriol i leihau’r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad, byddwn yn sicrhau bod y gwaith yn canolbwyntio ar wella canlyniadau disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gyflymach na chanlyniadau’r rhai nad ydynt yn gymwys.

 

Rydym yn parhau i weithio gyda chonsortia a swyddogion i archwilio ymhellach i’r rhesymau lle mae gan unrhyw awdurdodau lleol wahaniaethau cyrhaeddiad mawr neu wahaniaethau sy’n cynyddu, ac i nodi arferion da yn yr awdurdodau lleol a’r ysgolion hynny sy’n perfformio’n dda.

 

Mae Llywodraeth Cymru’n dal i argymell defnyddio dulliau seiliedig ar dystiolaeth ac mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod mwy o ysgolion yn mabwysiadu’r drefn hon. Dywed adroddiad gwerthuso diweddaraf y Grant Amddifadedd Disgyblion, a gyhoeddwyd ar 3 Rhagfyr 2015, fod y mwyafrif o ysgolion yn defnyddio systemau tracio data soffistigedig erbyn hyn er mwyn teilwrio’r ymyriadau priodol (sy’n cael eu hariannu gan y Grant Amddifadedd Disgyblion) ar gyfer dysgwyr a gwerthuso a yw’r ymyriadau hyn yn cael yr effaith a ddymunir. Mae rhai ysgolion sy’n destun astudiaeth achos yn adroddiad 2015 yn cydnabod eu bod yn defnyddio mwy ar ddata a thystiolaeth wrth gynllunio sut i wario’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn awr nag yr arferent ei wneud yn y gorffennol.

 

Mae’r sylfaen tystiolaeth o ran ‘beth sy’n gweithio’ i fynd i’r afael ag effaith amddifadedd ar ganlyniadau addysgol yn dal i dyfu ac esblygu. Byddwn yn parhau i hyrwyddo ymyriadau wedi’u seilio ar y dystiolaeth orau drwy ein hymgyrch i gyfathrebu ag ysgolion.

 

Rydym yn dal i fonitro effeithiolrwydd y Grant Amddifadedd Disgyblion. Canolbwyntiodd adroddiad ail flynedd gwerthuso’r Grant Amddifadedd Disgyblion ar ganfyddiadau ansoddol 22 o ysgolion a oedd yn destun astudiaeth achos, gan roi cipolwg ar sut mae ysgolion yn penderfynu sut i wario’r grant, y mathau o weithgareddau, ac argraffiadau athrawon o effaith y grant.

 

Mae canfyddiadau’r adroddiad hwn yn gadarnhaol iawn. Mae athrawon yn credu bod y grant yn gwneud gwahaniaeth a dywedant eu bod yn gweld gwelliannau arwyddocaol ymysg disgyblion, nid dim ond mewn llythrennedd a rhifedd ond hefyd o ran ymddygiad, hyder a hunan-barch. Mae’r adroddiad yn dangos hefyd:

 

o   Bod ysgolion yn defnyddio systemau soffistigedig i dargedu cefnogaeth at ddysgwyr drwy’r Grant Amddifadedd Ysgolion a’u bod yn nodi’r disgyblion a ddylai elwa o’r grant yn gywir.

o   Bod ysgolion yn defnyddio’r Grant Amddifadedd Disgyblion i gynyddu nifer a sgiliau’r Cynorthwywyr Addysgu fel eu bod yn gallu gweithredu a thargedu ymyriadau’r Grant Amddifadedd Disgyblion. Mae Cynorthwywyr Addysgu yn dod yn aelodau hynod fedrus o staff ysgol.

o   Bod y ffordd y mae ysgolion yn gwario’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn esblygu. Mae ysgolion a oedd i ddechrau wedi buddsoddi’r arian mewn systemau monitro data erbyn hyn yn canolbwyntio ar roi ymyriadau ar waith, ar hyfforddi ac ar gyflogi staff sydd â’r sgiliau i ddefnyddio’r ymyriadau.

o   Bod ysgolion fwyfwy yn defnyddio’r Grant Amddifadedd Disgyblion i ymestyn allan: gan gweithio gyda rhaglenni lleol sy’n ategu’r Grant Amddifadedd Disgyblion, megis Teuluoedd yn Gyntaf a Chymunedau yn gyntaf, a hefyd eu bod yn gweithio gyda rhieni fel eu bod nhw’n gallu cefnogi dysgu eu plant yn well.

 

Mae tystiolaeth Estyn a thystiolaeth ein Heiriolwr Codi Cyrhaeddiad hefyd yn dangos bod y mwyafrif o ysgolion yn gwneud penderfyniadau dilys, ac ôl meddwl gofalus arnynt, o ran sut i wario’u grant.

 


 

Atodiad B

 

Gweithredu Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (yn arbennig ysgolion sy’n achosi pryder a gweithdrefnau trefniadaeth ysgolion)

 

(i)            Ysgolion sy’n achosi pryder

 

Diweddariad: Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn cyfnerthu a diwygio’r gyfraith fel y mae’n ymwneud ag ymyrryd mewn ysgolion sy’n achosi pryder. Cychwynnodd darpariaethau yn y Ddeddf sy’n ymwneud ag ymyrryd mewn ysgolion, darparu canllawiau statudol ar ‘Ysgolion sy’n Achosi Pryder’ ac ymyrryd o fewn awdurdodau lleol ym mis Chwefror 2014.

 

Mae gan awdurdodau lleol nifer o ymyriadau y gallant eu defnyddio i wthio ysgolion i wella. Byddai’r math o ymyrraeth a gâi ei ddewis yn dibynnu ar y mater penodol yn yr ysgol.

 

Rydym yn ymwybodol fod awdurdodau lleol yn defnyddio’u pwerau ymyrryd, yn darparu hysbysiadau rhybuddio i ysgolion sy’n achosi pryder ac yn gweithredu lle mae angen. Mae swyddogion wedi cynnal ymarferiadau ym mis Rhagfyr 2013 a mis Rhagfyr 2015 i gasglu gwybodaeth oddi wrth awdurdodau lleol am yr hysbysiadau rhybuddio y maent wedi’u rhoi ers i ddarpariaethau Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) gychwyn, pa un a yw ysgolion wedi cydymffurfio â’r hysbysiadau hynny ac, os nad ydynt, pa gamau sydd wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r materion dan sylw. Mae’r ymarferiadau hyn yn darparu sylfaen tystiolaeth i Lywodraeth Cymru o’r camau gweithredu sy’n cael eu cymryd gan awdurdodau lleol. Mae’r swyddogion wrthi’n adolygu’r canllawiau a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2014 ar ‘ysgolion statudol sy’n achosi pryder’. Yn dilyn trafodaethau gyda rhai awdurdodau lleol ynglŷn â chynnwys y canllawiau, roedd y swyddogion o’r farn fod angen cryfhau’r canllawiau i’w gwneud yn fwy penodol mewn mannau. Sefydlodd y swyddogion grŵp gorchwyl a gorffen bach yn 2015, yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol a chonsortia, i ystyried y canllawiau ac i awgrymu unrhyw ddiwygiadau a fyddai o gymorth i wneud pwerau ymyrryd awdurdodau lleol yn gliriach. Mae’r swyddogion wrthi’n ystyried y sylwadau ac yn diwygio’r canllawiau ar hyn o bryd. Disgwylir i’r canllawiau diwygiedig gael eu cyhoeddi ddiwedd tymor y gwanwyn 2016.

 

(ii)          Trefniadaeth Ysgolion

 

Diweddariad: Cafodd yr adrannau o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion sy’n ymdrin â threfniadaeth ysgolion eu gweithredu’n llawn ym mis Hydref 2013. O’r adeg honno rhaid i unrhyw gynigion a gyhoeddir gan awdurdodau lleol i newid y ddarpariaeth ysgolion gydymffurfio â’r Ddeddf ac â’r Cod Trefniadau Ysgolion Statudol (“y Cod”) a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2013.Roedd y Cod yn nodi safonau a gweithdrefnau penodol o ran ymgynghori, cyhoeddi a phenderfynu ar gynigion ac roedd y rhain gryn lawer yn llymach na’r hyn a oedd yn bodoli o dan y ddeddfwriaeth flaenorol, ond roedd hefyd yn darparu ar gyfer trefn benderfynu symlach. O dan y ddeddfwriaeth flaenorol câi pob gynnig a gâi ei gyhoeddi ac a ddenai wrthwynebiadau ei gyfeirio at y Gweinidog iddo ef benderfynu arno.

 

Gallai penderfyniadau gymryd hyd at 6 mis o ddyddiad cyflwyno’r papurau, a thua blwyddyn o’r adeg pan ddechreuwyd ymgynghori’n lleol yn gyntaf ynglŷn â’r cynigion. O dan y ddeddfwriaeth newydd, caiff yr holl benderfyniadau bron eu gwneud yn lleol, a gall awdurdodau lleol drefnu i’w Cabinet wneud y penderfyniad hyd yn oed pan fydd gwrthwynebiadau. Mae rhai awdurdodau lleol wedi gwneud trefniadau i gyfeirio’r penderfyniadau terfynol at y Cyngor llawn. Mae’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion yn golygu bod llawer iawn llai o achosion yn cael eu cyfeirio at y Gweinidogion, ac mae’n golygu bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn gyflymach. Er enghraifft, yn y flwyddyn olaf pan oedd y ddeddfwriaeth flaenorol yn weithredol, rhwng 1 Hydref 2012 a 30 Medi 2013, cyhoeddwyd 73 cynnig, denodd 30 ohonynt wrthwynebiadau a bu rhaid eu cyfeirio at y Gweinidogion.

 

Rhwng mis Hydref 2013 pan ddaeth y Ddeddf newydd i rym a 30 Medi 2014, cyhoeddwyd tua 50 cynnig, denodd 18 o’r rhain wrthwynebiadau, a dim ond 2 ohonynt y bu rhaid eu cyfeirio at y Gweinidogion.

 

Rhwng 1 Hydref 2014 a 30 Medi 2015 cyhoeddwyd tua 73 cynnig a denodd 30 o’r rhain wrthwynebiadau. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain wedi arwain (neu byddant yn arwain) at benderfyniadau lleol. Yr eithriadau yw’r cynigion hynny sy’n golygu cael gwared â’r chweched dosbarth. Caiff y rhain eu cyfeirio at y Gweinidogion. Mae modd gwneud penderfyniadau lleol yn aml o fewn 1-3 mis o ddiwedd y cyfnodau gwrthwynebu, ac mae hynny yn golygu llawer mwy o sicrwydd ar lefel leol.

 

O dan y Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion gall cynnig a gaiff ei gymeradwyo neu’i wrthod gan awdurdod lleol gael ei gyfeirio at Weinidogion Cymru i gael ei ystyried fodd bynnag os bydd nifer fach o bartïon penodol yn penderfynu gwneud hynny. Y partïon dan sylw yw

·         Awdurdod lleol arall y mae’r cynigion yn effeithio arno;

·         Y corff crefyddol priodol ar gyfer unrhyw ysgol yr effeithir arni;

·         Corff llywodraethu ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig sy’n ddarostyngedig i’r cynigion;

·         Ymddiriedolaeth sy’n dal eiddo ar ran ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig sy’n ddarostyngedig i’r cynigion; a

·         Sefydliad addysg bellach y mae’r cynigion yn effeithio arno.

 

Dim ond dau achos o’r fath sydd wedi’u cyfeirio gan gyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol ers i’r Ddeddf ddod i rym. Cafodd un cynnig ei wrthod am fod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan yr awdurdod lleol yn ddiffygiol ar un cyfrif pwysig.

 

Bu gwelliant cyffredinol o ran cydymffurfio â’r gweithdrefnau ymgynghori ac yn ansawdd yr ymgynghori ers i’r Ddeddf ddod i rym. Gan fod Gweinidogion Cymru’n cael copïau o’r ohebiaeth, mae’r swyddogion wedi darparu adborth yn nodi i ba raddau y mae dogfennau’n cydymffurfio ac mae gwelliant parhaus yn amlwg. Mae Estyn yn cael copïau hefyd ac yn darparu barn annibynnol ar gynigion y mae rhaid i awdurdodau lleol ac eraill ei hystyried cyn iddynt fwrw ymlaen. Gan mai’r awdurdodau lleol sy’n gyfrifol at ei gilydd am wneud penderfyniadau bellach, mae’r rhai sy’n gwrthwynebu, na allant gyfeirio’r mater at Weinidogion Cymru, wedi ystyried cymryd camau cyfreithiol. Er bod nifer fach o achosion o’r fath wedi’u cymryd, dim ond un fu’n llwyddiannus. I bob diben roedd hwnnw’n dirymu penderfyniad a wnaed gan awdurdod lleol Pen-y-bont i gau ysgol.

 

Mae ymrwymiad i adolygu sut mae’r Ddeddf a’r Cod Statudol yn gweithio ar ôl 3 blynedd. Gan fod gweithrediad y Ddeddf a’r Cod o ran trefniadaeth ysgolion wedi cael ei fonitro’n barhaus, bydd swyddogion mewn sefyllfa i drefnu’r adolygiad yn unol â’r ymrwymiad.


 

Atodiad C

Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

 

Rhoddais ddiweddariad ichi ar 16 Gorffennaf.